Beth ddylai fod yn flaenoriaethau mewn addysg cynradd?


"Priority is the fact or condition of being regarded or treated as more important than others or something."

Pwrpas Addysg
Pwrpas addysg yw gwella lles yr unigolyn a'r gymdeithas. Mae'n hyrwyddo datblygiad yr unigolyn a'r gymdeithas wâr, yn flaengar, yn gymwys ac yn effeithlon.

Blaenoriaethau Addysg Cynradd

Mae nifer o flaenoriaethau yn dod gyda rhywbeth mor bwysig ag addysg. Addysg yw un o brif rhannau bywyd ac yn  un o rhannau mwyaf pwysig bywydau plant erbyn heddiw. Yr ysgol yw lle mae plant yn creu ffrindiau, datblygu sgiliau yn barod ar gyfer bywyd yn gyffredinol ac i’w pharatoi at bywyd tu fas i addysg.

Un o’r pethau dylai cael y mwyaf o flaenoriaeth yw bod plant yn cael barn yn eu dysgu. Mae’n bwysig iddyn nhw cael dweud yn yr hyn maent yn dysgu ac yn yr hyn y mae nhw eisiau ddysgu er mwyn sicrhau diddordeb o fewn addysg.

Yn addysg cynrdd mae disgwyl i blant dysgu’r sgiliau canlynol megis llythrennedd, rhifedd, sgiliau cymdeithasol, cyfathathrebu, amser i blentyndod  a dinasyddiaeth.

Yn ôl erthygl yn y guardian mae Robin Alexander (2006) yn dweud dyle fod 8 blaenoriaeth o fewn addysg gynradd gan cynnwys y canlynol:
  • ·       Helpu ysgolion i ddelio ag anfantais addysgol a gau y bwlch cyrhaeddiad
  •        Rhoi llais a barn go iawn i blant yn eu dysgu
  •        Ni ddylai addysg gynradd baratoi'r plant ar gyfer ysgol uwchradd yn unig
  •        Cymryd o ddifrif y cwricwlwm y tu hwnt i'r 3R
  •        Cynyddu'r ffocws ar bedagogeg yn seiliedig ar dystiolaeth
  •        Dylid asesu am fwy na dim ond canlyniadau profion
  •       Dylai ysgolion gysylltu gyda'r gymuned
  •        Rhaid newid y disgwrs polisi addysgol, ac yn fwy radical
Ni ddylai addysg gynradd baratoi'r plant ar gyfer ysgol uwchradd yn unig

Yn ôl Robin Alexander (2013), dyle addysg cynradd paratoi plant am y dyfodol nid dim on ysgol uwchradd yn unig. Dywed  We need to sort out what primary education is for, and ensure that aims driving the curriculum and are not merely cosmetic. To say, as the government does, that the main aim of primary education is to make children 'secondary ready' is to undervalue children's huge potential for development and learning during the primary years. Education is about the here and now as well as the future, but schools should also address the wider condition and needs of children and society in today's complex world.” Mae’n bwysig i blant bod yn barod ar gyfer beth sydd yn dilyn blwyddyn 6, ac hynny yw bywyd, nid dim ond blwyddyn 7 yn unig. Felly mae hi’n bwysig i ystyried dyfofol cyflawn plant pan mae’n dod i addysg, nid dim ond y cam nesaf o addysg cynradd i uwchradd.

Dylai ysgolion gysylltu gyda'r gymuned

Mae gan Brydain amrywiaeth demograffeg, economaidd, diwylliant a ieithyddol enfawr, sydd yn creu amrywiaeth eang o amgylchiadau ac anghneion addysgol. Mae’r gorau o’n hysgolion ddim yn unig yn gweithio’n agos gyda’r gymuned ond yn sicrhau bod y cwricwlwm yn ymatebol i anghenion a cyfleoedd lleol ac yn byw’r syniad o gymuned yn eu gwaith pod dydd a’i pherthnasau.

Adroddiad Donaldson
Yma yng Nghymru, mae’r llywodraeth wedi penderfynu addasu’r cwricwlwm ac wrthi’n eu newid ar hyn o bryd. Cynlluniwyd y cwricwlwm newydd gan Broffesor Graham Donaldson.  Bwriad y cwricwlwm yma yn ôl (Donaldson, 2015) yw i ymgorffori pob dysgwr tair i 16 oed, o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4 sef TGAU.

Mae’r cwricwlwm newydd yn anelu at greu:
  • Ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau
  • Yn dinasyddion gwybodus moedegol o Gymru a’r byd
  • Ac uniogolion iachus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas 
  • cyfranwyr creadigol a mentrus, yn barod i chwarae rhan llawn ym mywyd a gwaith
Mae’r cwricwlwm newydd wedi datblygu i gael ei drefnu i fewn i chwech maes dysgu a phrofiad sef, celfyddyday, iechyd a lles, dyniaethau, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mathemateg a rhifedd a gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae Donaldson hefyd eisiau i ysgolion cymraeg i weithredu fel hub i’r iaith gymraeg i gefnogi athrawon yn yr ysgolion gyfrwng saesneg yng Nghymru.

Rhestr Cyfeirio

Robin Alexander (2013) Eight Priorities to improve primary education. Available at:
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/the-donaldson-report-an-at-a-glance-guide-8713671
(Accessed: January 30th 2018)


Graham Donaldon (2015)  Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales Available at:
(Accessed: January 30th 2018)

Graham Donaldson (2015) The Donaldson Report: An-at-a-glance-guide Available at: https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/the-donaldson-report-an-at-a-glance-guide-8713671
(Accessed: January 30th 2018)


Comments

  1. Rydw i'n hoffi dy fod ti wedi adnabod blaenoriaethau ysgol gynradd, ac yn cytuno bod dylai'r ysgolion gysylltu gyda'r gymuned. Gallwch rhoi enghraifft o sut ydy'r ysgolion yn gallu cysylltu gyda'r gymuned?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Credaf gall ysgolion cysylltu gyda'r cymuned trwy cynnal gweithgareddau addysgol sy'n amlygu'r blaenoriaethau addysg cynradd yn gwahodd y cymuned, e.e. rhieni a gwarchodwyr i ymuno mewn gyda sesiynnau yn yr ysgol. Gwelir yn y blog fy mod i wedi son am rhifedd fel blaenoriaeth o fewn ysgolion cynradd. Yn rhai ysgolion cynradd yn yr ardal mae'r ysgol yn gwahadd rhieni a gwarchodwyr i fod yn rhan o gweithdai gyda'i phlant er mwyn gallu cwblhau tasgau gyda nhw er mwyn i nhw allu helpu nhw yn y ty gyda gwaith a.y.y.b. Ffordd arall gall ysgolion cysylltu gyda'r cymuned yw i gynnal ffair llyfrau er enghraifft, lle bu angen i rhieni/gwarchodwyr ddod i'r ysgol er mwyn helpu eu phlant i ddewis a phrynnu llyfrau am phleser neu llyfrau addysgiadol. Mae hyn wedyn yn sicrhau bod y cymuned a rhieni wastad yn 'in the loop' amdano beth sy'n mynd ymalen yn yr ysgol.

      Delete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig o fewn addysg cynradd?

Beth ellir ei wneud er mwyn gwella agweddau tuag at fathemateg yn yr ystafell dosbarth yng Nghymru?

Myfyriwch a thrafodwch ystyr a pharamedrau e-ddiogelwch