Sut caiff llyfrau gyda lluniau eu ddefnyddio mewn addysg cynradd?
"A story picture book is a book containing many illustrations, especially one for children."
Beth yw llyfrau gyda lluniau?
Yn aml, llyfrau
gyda lluniau yw’r math o lyfrau cyntaf bydd plant yn cael cyswllt ag yn y byd
addysg. Mae’r lluniau yn caniatau i blant allu deall am beth yn union mae’r
stori yn sôn, er nad ydynt yn gallu darllen y geiriau ar y pryd. Yn ôl (Smith, 2018) “books
where the art and the words work together to create meaning so that,
without either, the story is nonsensical.”
Yn ôl (Smith, 2018) dywed (Leland et al,
2005) bod “children who experience a critical approach to literacy learn to
‘read between the lines’ and generate alternative explanations regarding the
author’s intent. They are encouraged to take an active role in questioning both
the texts themselves and the beliefs and personal experiences they bring to
them". Dangosa hyn bod llyfrau gyda lluniau yn hanfodol o
fewn addysg cynradd er mwyn datblygu sgiliau darllen a llythrennedd yn y
dyfodol.
Pŵer o ddefnyddio llyfrau gyda lluniau o fewn addysg cynradd
Dyma clip fideo sydd yn dangos pŵer
defnyddio llyfrau gyda lluniau o fewn addysg cynradd.
(Educational Video Publishing, 2018)
Pam ddefnyddio llyfrau
gyda lluniau?
Mae nifer o resymau pam ddylai llyfrau
gyda lluniau cael eu ddefnyddio o fewn addysg cynradd. Mae’r rhesymau yn
cynnwys:
Mwynhâd pur
Mae ymgysylltu gydag
delweddau gweledol yn phleserus ac yn ysgogol. Mae plant yn dueddol o
gwerthfawrogi ac ennill ystyr oddi wrthynt gan eu fod nhw’n gallu dychmygu a
ddehongli’r stori trwy edrych ar ddelweddau yn hytrach na dim ond darllen
geiriau. Dywed (Knight, 2017) “The widely used English idiom that ‘one picture is worth a
thousand words’ reflects our love of pictures.”
· Cysylltiad
Yn amlwg, mae mwynhâd yn
arwain at ymgysylltiad, mae hyn yn gyfarwydd gyda pob un ohonom ni, oedolion
ynghŷd â phlant. Mae llyfrau gyda lluniau yn dueddol o denu sylw plant ac felly
yn meithrin cysylltiad cadarnhaol gyda llyfrau, ac yna yn y dyfofol bydd plant
yn edrych ar ddarllen fel rhywbeth positif y mae nhw’n mwynhau.
· Cyfleoedd i siarad a
thrafod
Mae delwedd ysgogol yn
medru hyrwyddo siarad ac yn galluogi plant i fyfyrio ar ddelweddau, ac arwain
iddyn nhw trafod pethau yn gysylltiedig â’r lluniau er enghraifft - a ydynt yn
gyfarwydd, anarferol neu chwareus? Os mae’r lluniau wedi cipio diddordeb y
plant, yn debygol fe fydd y plant eisiau’i drafod a siarad amdanyn nhw. Wrth siarad
byddant yn adeiladu geirfa ac yn y pendraw yn gallu ffurfio brawddegau i drafod
y stori â’r lluniau a hefyd fe byddant yn medru gweud ystyr ohonynt.
· Datblygu sgiliau o fewn y
meysydd darllen ac ysgrifennu
Mae ymgysylltu â llyfrau
gyda lluniau yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau Saesneg mewn modd
'cyfannol'. Mae ymgysylltu â lluniau yn
datblygu llythrennedd gweledol, mae’r sgil yma yn cael eu tanbrisio yn y
cwricwlwm presennol. Yn ôl (Fox, 1994) “The mental activities of a reader absorbed in a picture book
have much in common with the processes which mature, highly competent readers
employ as they read other kinds of texts, such as novels and poems.”
· Cymell darllenwyr anfodlon
Mae plant sydd yn cael trafferth gyda darllen am pa bynnag rheswm pe bai hi'n dyslexia, llai o brofiad, neu anghenion arbenning, yn manteisio o dreulio amser yn darllen llyfrau gyda lluniau er mwyn ddatblygu eu llythrennedd gweledol gan osgoi llyfrau gyda gormodedd o ysgrifen. Bydd creu diwylliant lle mae llyfrau llun yn cael mwynhau a gwerthfawrogi ar draws CA2 o fudd i blant, ond yn enwedig y rhai nad sydd yn barod i ddarllen llyfrau penodau yn annibynnol.
Mae plant sydd yn cael trafferth gyda darllen am pa bynnag rheswm pe bai hi'n dyslexia, llai o brofiad, neu anghenion arbenning, yn manteisio o dreulio amser yn darllen llyfrau gyda lluniau er mwyn ddatblygu eu llythrennedd gweledol gan osgoi llyfrau gyda gormodedd o ysgrifen. Bydd creu diwylliant lle mae llyfrau llun yn cael mwynhau a gwerthfawrogi ar draws CA2 o fudd i blant, ond yn enwedig y rhai nad sydd yn barod i ddarllen llyfrau penodau yn annibynnol.
Rhestr Cyfeirio
Smith, S. (2018) Why primary schools need to embrace picture
books to boost literacy Available at: https://www.tes.com/news/why-primary-schools-need-embrace-picture-books-boost-literacy
(Accessed: 3 February 2018)
Knight, R. (2017) The power of picture books in the primary classroom Available at:
(Accessed: 3 February 2018)
Fox, G. (1996) Reading Picture Books…How to? In,
Styles, M., Bearne, E. and Watson, V. (eds.)
Mwynheais edrych ar llyfrau gyda lluniau pan oeddwn yn iau. A ydych yn credu bod llyfrau gyda lluniau yn cael ei gynnwys digon yn y cwricwlwm yn enwedig yn y cyfnod sylfaen, ac a ydych yn credu bod yn bwysig ar gyfer ei ddatblygiad gwybyddol plant?
ReplyDeleteA finnau hefyd! O fy mhrofiad personnol, credaf bod llyfrau gyda lluniau yn cael eu ddefnyddio llawer yn yr ysgol o fewn y cwricwlwm cyfnod sylfaen, ond nid oes fath beth a digon! Credaf bod llyfrau gyda lluniau yn bwysig ar gyfer datblygiad gwybyddol plant. Yn y cyfnod sylfaen nid ydy plant yn gallu darllen llyfrau gyda geiriau oherwydd nid ydyn nhw'n adnabod beth yw'r geiriau'n meddwl, felly mae nhw'n defnyddio'r lluniau er mwyn ddehongli'r stori. Mae plant yn dueddol o ffurfio brawddegau i gydfynd gyda'r llun er mwyn dweud a ddehongli'r stori, mae hyn yn y dyfodol mynd i helpu datblygiad gwybyddol plant yn llawn gan eu fod nhw'n mynd i ddysgu sut i ffurfio brawddegau a darllen geiriau ac hefyd eu ysgrifennu nhw sydd yn sgil pwysig a hanfodol ym mywyd. Yn ol (Buckley, 2015) "When young children play at reading they imitate what they have
Deleteseen – turning the pages, looking at the pictures, ‘reading’ the words in that special ‘tone’. As teachers we need to build on and extend this language play so that children develop a love of books and early reading skills." Mae hyn felly yn dangos pwysigrwydd llyfrau lluniau er mwyn helpu plant ddatblygu ac yn annog iddynt mwynhau darllen am bleser felly yn y dyfodol.
Cyfeirio
Buckley, S. (2015) Northern Ireland Curriculum - Reading Language and Literacy in the Foundation Stage Available at: http://www.nicurriculum.org.uk/docs/foundation_stage/areas_of_learning/language_and_literacy/LL_Reading.pdf
[Accessed: 24 April 2018]