Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig o fewn addysg cynradd?


"for pleasure means any reading that is primarily for enjoyment. It encompasses a wide range of genres and publications, and includes both fiction and non-fiction."

Darllen am bleser?

Ceir tystiolaeth gref yn cysylltu darllen am bleser a chanlyniadau addysgol. Rydym yn gwybod bod cyrhaeddiad academaidd yn hollbwysig, ond mae manteision darllen er pleser yn mynd y tu hwnt I hyn ac yn ymestyn trwy gydol bywyd person.

Mae’r berthynas rhwng darllen am bleser a lles yn diddorol, gyda thystiolaeth yn dangos cydberthynas rhwng darllen ar gyfer pleser yn rheolaidd a lefelau is o staren ac iselder. Yn ogystal â manteision iechyd, mae darllen er pleser yn mantais cymdeithasol ac gallwn wella ein hymdeimlad o gysylltedd I’r gymuned ehangach. Mae darllen yn cynnyddu ein dealltwriaeth o hunaniaeth ein hun,gwella empathi ac yn rhoi cipolwg ar y byd a barn pobl eraill.

Manteision darllen am bleser?

Yn ôl y (Department for Education, 2012) mae nifer o fanteision addysgol i ddarllen am bleser:

  • Ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos y pwysigrwydd  o darllen er pleser i ddibenion addysgol yn ogystal â datblygiad personol
  • Mae tystiolaeth yn awgrymu bod perthynas gadarnhaol rhwng amlder darllen, darllen am  mwynhad a chyrhaeddiad 
  • Mae cysylltiad cadarnhaol rhwng agweddau cadarnhaol tuag at ddarllen a sgorio'n dda ar asesiadau darllen 
  • Darllen straeon neu nofelau y tu allan i'r ysgol yn rheolaidd yn gysylltiedig â sgoriau uwch mewn asesiadau darllen 
  • Mae tystiolaeth yn awgrymu bod darllen er mwyn pleser yn gweithgaredd gyda canlyniadau emosiynol a chymdeithasol
  •  
Sut gall darllen dod yn rhan o bywyd pob dydd

Yn ôl (Venning, 2015), “Reading needs to be an everday part of our lives”. Dengys Gwaith ymchwil penodol, mae manteision darllen yn fwy tebygol o cael ei teimlo pan mae darllen yn digwydd trwy dewis ac am ddim, nid oherwydd mae angen gwneud. Nid yw darllen yn rhwyebth y dylai’r plant ei wneud yn yr ysgol yn unig; mae angen iddo fod yn rhan annatod o’i bywydau, rhwybeth rydym yn dewis i gwneud unrhyw oedran.

Un o’r ffyrdd gorau gall rhieni helpu ei phlentyn I wneud yn dda yn yr ysgol yw trwy annog I mwynhau darllen er mwyn pleser. Mae plant sy’n mwynhau darllen yn gwnued yn well yn yr ysgol ac mae’r rhieni’n chawarae rôl allweddol  wrth helpu eu plant I ddatblygu.

Pam bod darllen yn bwysig ar gyfer babanod a phlant ifanc 

Yn ôl y wefan Raising Children mae rhannu straeon, siarad a chanu yn rhan o bywyd pob dydd ac yn helpu datblygiad plant mewn llawer o ffurf. Gall darllen a rhannu straeon:

  •        Helpu plant i ddod yn gyfarwyd a seiniau, geiriau, iaith a gwerth llyfrau
  •        Ysgogi dychymyg plant, ysgogi chwilfrydedd ac yn helpu datblygiad yr ymennydd
  •        Helpu plant i dysgu y gwahaniaeth rhwng ‘go iawn’ a ‘make-believe’
  •        Helpu plant i deall newid a digwyddiadau newydd neu frawychus, a hefyd yr emosiynau cryf sy’n gallu mynd gyda nhw
  •        Helpu eich plant i ddatblygu sgiliau llythrennedd cynnar fel y gallu i wrando a deall geiriau

Paratoi ar gyfer darllen yn yr ysgol

Gall rhieni helpu a chefnogi eu phlant trwy annog I darllen amrywiaeth o wahanol fathau o lyfrau. Yn ôl Ysgol Dyffryn Nantlle, 2018, mae nifer o wahanol ffurf I gwenud hyn:
  •        Gall helpu’r plant dod o hyd i lyfrau y bidden nhw’n mwynhau trwy ymuno â’r llyfrgell.
  •        Darllen gyda nhw. Dewisiwch deunydd am diddordebau a hobiau a rannwch e.e. tîm pêl-droed
  •         Siaradwch am pa lyfrau ne cylchgronau y gallai’ch plenty darllener mwyn dysgu am pynciau gwahanol y bydden nhw’n dysgu yn yr ysgol 
  •      Prynwch llyfr neu tocyn lyfr fel anrheg neu wobr pan yn gwneud rhywbeth yn gywir.
Yn ôl Dr Sullivan “There are concerns that young people’s reading for pleasure has declined. There could be various reasons for this, including more time spent in organised activities, more homework, and of course more time spent online.” Mae nifer o blant heddiw yn defnyddio technoleg er mwyn darganfod gwybodaeth yn lle defnyddio llyfrau o’r llyfrgell, neu adnoddau’r ysgol. Mae hyn yn rheswm nad ydy darllen yn rhan o bywyd pob dydd plant, nad ydyn nhw’n darllen er pleser maent yn darllen oherwydd maen rhaid iddyn nhw darganfod y wybodaeth.


Rhestr Cyfeirio

Department for education (2012) Research evidence on reading for pleasure - Education standards research team  Available at: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/284286/reading_for_pleasure.pdf
[Accessed: 6 February 2018]

Venning.L, (2015) Why is reading for pleasure important? Available at:
 https://readingagency.org.uk/news/blog/why-is-reading-for-pleasure-important.html  
[Accessed: 6 February 2018]

Raising Children Network (2018) Reading and storytelling with babies and children Available at: 
http://raisingchildren.net.au/articles/reading.html
[Accessed: 6 February 2018]

 Battye.C (2013) Reading for pleasure puts children ahead in the classroom Available at:
http://www.cls.ioe.ac.uk/news.aspx?itemid=2740&sitesectionid=27
(Accessed: 6 February 2018)











Comments

  1. Rydw i'n cytuno bod darllen am pleser yn bwysig oherwydd bydd mwy o bobl yn darllen fel hobi a fydd yn wella sgiliau darllen pobl a rwy'n cytuno gyda Venning bod dylai darllen fod yn rhan o'i bywyd bob dydd, sut fyddet ti'n cefnogi plant ysgol i ddarllen a'i newid ei barn fel fyddent yn fwynhau ac eisiau darllen mwy fel hobi?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Yn amlwg, pan mae plant yn ifanc nid ydyn nhw'n ystyried darllen fel rhywbeth sydd yn apelio atynt neu rhywbeth cwl ac felly mae nifer o blant o ganlyniad i hyn yn penderfynnu i beidio darllen o gwbl. Mae darllen yn sgil pwysig a ddefnyddiol i gael yn ystod bywyd, mae darllen yn creu dysgwyr, myfyrwyr a gweithwyr gwybodus yn y dyfodol ac mae hynny'n rhywbeth positif dros ben. Yn fy marn i, nid yw ysgolion yn portreadu darllen fel rhywbeth sy'n gysylltiedig a mwynhad a hwyl, mae'n dueddol o gael eu bortreadu fel gweithgaredd eithaf difrifol i rai raddau gan eu fod hi'n gysylltiedig a thawelwch a.y.y.b. Er mwyn cefnogi blant i ddarllen mwy ac i mwynhau darllen, fe fyddai'n annog gweithgareddau sydd yn gysylltiedig gyda darllen, fel trafodaethau grwp ynglyn a llyfrau sbesifig er mwyn rhannu barn ar y llyfr, fe fyddai hefyd yn rhoi mwy o rhyddid i blant yn y dosbarth dewis pa fath o lyfrau mae'n nhw eisiau darllen gan fod pawb anghenion a diddordebau gwahanol i'w gilydd.

      Delete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Beth ellir ei wneud er mwyn gwella agweddau tuag at fathemateg yn yr ystafell dosbarth yng Nghymru?

Myfyriwch a thrafodwch ystyr a pharamedrau e-ddiogelwch