Sut gall athrawon defnyddio technoleg yn effeithiol mewn dosbarth cynradd?


"the application of scientific knowledge for practical purposes, especially in industry"

Beth yw technoleg?


Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae technoleg wedi dod yn fwy a fwy poblogaidd yn ein byd ni ac fe all rhai ddadlau eu bod hi’n cymryd drosodd. Yn y gorffennol, cyn i dechnoleg dod i’r golwg roedd athrawon yn defnyddio byrddau du er mwyn nodi pwyntiau a nodau gwersi er mwyn i’r disgyblion allu darllen. Yn fuan ar ôl hyn, cafodd byrddau gwyn eu gyflwyno ac yna’n cymryd lle y byrddau du. Ac erbyn hyn mae prosiectwyr a taflynuddion yn cael ei ddefnyddio i gyflyno tasgau.

Sut mae technoleg yn cael eu cyflwyno yn y cwricwlwm?

Yng Nghymru erbyn hyn, mae fframwaith cymhwysedd digidol wedi cael eu gyflwyno er mwyn rhoi pwyslais ar 3 elfen pwysig o fewn y cwricwlwm. Mae vymhwysedd digidol yn un o 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd - y ddwy eraill yw llythrennedd a rhifedd. Mae'n canolbwyntio ar sgiliau digidol sydd medru cael eu ddefnyddio o fewn amrywiaeth eang o bynciau a sefyllfaoedd yn ystod bywyd ac addysg. (Cymru, 2018).

Mae (Evans, 2015) yn dweud "The curriculum introduces three 'cross-curriculum responsibilities' - literacy, numeracy and digital competence - that would be expected of all teachers."

Beth yw'r model SAMR 


Mae’r model SAMR a ddatblygodd gan Dr Ruben Puentedura yn ffordd effeithiol i athrawon ddefnyddio technoleg yn dosbarth cynradd am ei fod hi wedi ei gynllunio er mwyn helpu addysgwyr trwytho technoleg i dysgu ac addysgu. Dywed (Oxnevad, 2013) bod y model SAMR yn adnodd defnyddiol er mwyn helpu i athrawon feddwl am sut y maen nhw’n defnyddio technoleg eu hunain er mwyn iddyn nhw allu gwneud newidiadau bach yn y dylunio a’r gweithredu er mwyn gwella profiadau dysgu technoleg allu cyrraedd y lefel nesaf. 

Dyma clip fideo i esbonio sut mae'r model yn gweithio:



Sut mae athrawon yn defnyddio technoleg yn y dosbarth?

Pŵerbwyntiau

Yn aml heddiw, mae athrawon yn defnyddio pŵerbwyntiau er mwyn cyflwyno tasgau yn gweledol ac yn ddeiniadol. Trwy gwneud hyn mae’n denu sylw’r disgyblion yn ffordd positif gan eu fod hi’n ffordd syml o gyflwyno gwybodaeth, heb ormodedd o ysgrifennu arni ac hefyd yn cynnwys lluniau er mwyn cyfleu syniadau a tasgau. Yn ôl wefan Investintech When used effectively, PowerPoint can really enhance teacher presentations and the overall comprehension of students. It is a program that allows teachers to present their lessons in a more dynamic way than simply lecturing and writing on the blackboard”.

Ipads/apiau

Mae'r ddefnydd o ipads ac apiau wedi dod yn lot fwy gyfarwydd yn yr ystafell dosbarth yn diweddar. Mae ddefnyddio ipads yn yr ystafell dosbarth yn dod ag addysg yn fyw. Gan ddefnyddio ipads mae gan blant mynediad diddiwedd i wybodaeth gwerthfawr fel geiriaduron a thesawrws. Mae technoleg rhyngweithiol yn gwneud dysgu’n fwy diddorol a chofiadwy.

Defnydd yr ipad o fewn addysg

Yn ôl (Bazin, 2010) mae defnydd yr iPad o fewn addysg yn dda am nifer wahanol o resymau:

Ymchwil ar y rhyngrwd
Mae ipads yn wych ar gyfer ymchwilio ar y wê ar gyfer ymchwilio pynciau tu fewn neu tu allan o’r ystafell ddosarth.

Creu fideos
Mae creu fideos yn syml i wneud ar ipad. Fe all creu fideos ar yr ipads fod yn dasg grŵp dda er mwyn annog cyfathrebu a chydweithio. Fe ellir ddefnyddio apiau fel imovie er mwyn creu fideos i cydfynd a stori er enghraifft ac yna fe all disgyblion cyflwyno eu fideos i grwpiau eraill.

Cymryd nodiadau o fewn gwersi
Mae iPad yn cludadwy ac yn hawdd i’w gario o gwmpas gyda llyfrau gan ei gwneud yn offer ddelfrydol i gymryd nodiadau a storio deunydd gwersi yr athro i gyd.

Adolygu
Ceir sawl ap ardderchog ar iPads ar gyfer creu mapiau meddwl sy'n gwneud y broses o adolygu yn fwy pleserus ac effeithiol gan fod modd i ddisgyblion creu adnoddau deiniadol er mwyn tynnu sylw .


Blogiau
Mae blogiau yn ffordd dda o ddefnyddio technoleg yn y dosbarth gyda disgyblion ond yn ogystal a gwella sgiliau TGCh mae ysgrifennu yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion allu gwella sgiliau ysgirfenedig a chyfathrebu. Trwy ysgrifennu blogs ar wefannau megis blogger a wordpad a'i rhannu gyda'r disgyblion eraill mae'n rhoi cyfle iddyn nhw rhannu gwyodaeth am yr hyn maent wedi dysgu, yr hyn sydd wedi'u diddori a'r hyn nad oedden nhw wedi mwynhau a'r hyn nad oeddent yn deall. Mae'r disgyblion wedyn yn gallu darllen blogs eu gilydd er mwyn allu dysgu rhywbeth o'i gyd-ddisgyblion.

Creu cerddoriaeth

Gellir ddefnyddio apïau fel garage band ar iPhone/iPads neu Mac er mwyn cymryd rhan o fewn tasgau a wersi cerddoriaeth. Mae’r app yn caniatáu i chi chwarae o amgylch gyda nifer o wahanol offerynnau ac yn y pendraw creu cân i gydfynd gyda clip fideo sydd yn gallu fod yn tasg diddorol. Fe wnaethon ni greu darn o gerddoriaeth/rhythm ein hun i gydfynd gyda clip fideo o gêm rygbi Cymru V Lloegr. Roedd y tasg yn hwyl oherwydd roedd yr ap yn caniatáu iddyn ni arbrofi gyda nifer o offerynnau a thechnegau gwahanol. Mae’r ap yn dda gan fod mynediad gyda’r plant i nifer wahanol o offerynnau yn digidol gan fod offerynnau yn ddrud iawn i brynnu.

VOKI

Mae ddefnyddio wefannau fel Voki yn rhoi cyfle i blant i arbrofi'n dechnolegol yn y byd modern. Voki yw wefan addysgol lle mae modd i'w ddefnyddwyr, sef athrawon a ddisgyblion creu cymeriad eu hunain er mwyn siarad a chyfathrebu ar lein Voki yn arf addysgol sy'n galluogi defnyddwyr i greu eu hunain fel cymeriad yn siarad. 

Gellir addasu cymeriadau Voki i edrych fel ffigurau hanesyddol, cartwnau, anifeiliaid, a hyd yn oed eich hun! Mae modd rhoi llais i eich cymeriad voki gan ddefnyddio meicroffon, defnyddio ein rhif deialu i mewn, neu lanlwytho ffeil sain. Mae modd i gymeriadau  cael ei rhannu ar sail e-bost, rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, a'u gwreiddio ar wefannau.

Mae modd i'r ddisgyblion penderfynu ar sut mae'r avatar voki nhw yn edrych, gallen nhw penderfynu ar liw gwallt, lliw llygaid, steil gwallt. Mae opsiwn dosbarth lle all y ddisgblion cael mynediad i ac yn y rhan yma gallen nhw weld yr holl tasgau a aseiniadau mae'r athro wedi gosod. Mae hyn yn gwneud dysgu lot fwy hwylus ar gyfer ddisgyblion gan eu fod hi'n rhyngweithiol ac yn ddigidol.





Class Dojo

ClassDojo yw ap cyfathrebu ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Mae'n cysylltu athrawon, rhieni, a myfyrwyr sydd yn ei ddefnyddio i rannu lluniau, fideos a negeseuon trwy y diwrnod ysgol. Maent yn defnyddio ClassDojo i weithio gyda'i gilydd fel tîm, rannu'r profiad ystafell ddosbarth, a dod â syniadau mawr i fywyd yn eu hystafelloedd dosbarth a'u cartrefi.

Mae ClassDojo yn cael eu ddefnyddio i hybu ymmddygiad a gwaith positif ymysg y plant yn y dosbarth. Mae gan bob disgybl yn y dosbarth cymeriad eu hun sydd yn cael eu arddangos ar tudalen blaen yr athro/awes, ar hyn mae modd i athrawon rhoi pwyntiau i ddisgyblion am waith da, ymdrech da, dilyn cyfarwyddiadau a.y.y.b. Mae hefyd modd i athrawon tynnu pwyntiau oddi ar ddisgyblion os nad ydynt yn ymddwyn yn dda ac os nad ydynt yn gwrando ar cyfarwyddiadau. 

Pan es i ar brofiad gwaith i ysgol gynradd, roedd yr athrawon yn ddefnyddio ClassDojo, roedd y disgyblion yn ymateb yn bositif iawn i'r wefan/app yma. Roedden nhw'n maynhau cael y cyfle i ychwanegu pwyntiau i'w Dojo eu hun os roedden nhw wedi ymddwyn yn dda, cwblhau gwaith o safon uchel neu dilyn cyfarwyddiadau. Roedd y wefan/app yn creu awyrgylch positif ymysg holl ddisgyblion y dosbarth a'r athrawon. Dywed un o'r athrawon hefyd ers iddyn nhw dechrau defnyddio ClassDojo bod yr holl ddisgyblion wedi dechrau ymateb ac ymddwyn lot well yn ystod gwersi. 







Rhestr cyfeirio

Cymru, L. (2018). Dysgu Cymru. [online] Learning.gov.wales. Available at:
[Accessed 1 April 2018].

Evans, G. (2015) The Donaldson Report: An-at-a-glance-guide Available at:
[Accessed 1 April 2018]


Oxnevad, S. (2013) ‘Using SAMR to Teach Above the Line’ Getting smart, July 4, 2013. Available at:
[Accessed: 1 April 2018]

Investech (2012) USING POWERPOINTS IN THE CLASSROOM Available at: 
https://www.investintech.com/content/powerpoint/
[Accessed 1 April 2018]



Bazin, A (2010) iPads in the Classroom Available at:

[Accessed 1 April 2018]

Comments

  1. Rydw i'n hoffi'r ffordd dy fod wedi edrych ar ffyrdd gwahanol o ddefnyddio technoleg yn y dosbarth gan athrawon, ond wyt ti'n credu bod technoleg yn cael ei defnyddio gormod, yn dibynnu arnynt gormod ac yn dechrau effeithio ar yr mwynhad o darllen llyfrau?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Wrth gwrs fe allen ni edrych ar dechnoleg fel rhywbeth positif a negyddol. Credaf bod technoleg yn rhywbeth anhygoel gan eu fod e'n rhoi mynediad i blant ac athrawon hefyd i nifer o ddeunyddiau i gynorthwyo gyda gwaith a chynllunio yn digidol. Mae hyn yn gwneud cwblhau gwaith llawer yn haws i ddisgyblion oherwydd bod gyda nhw mynediad i nifer o bethau cynorthwyol ar y we e.e. BBC bitesize a wefannau addysgiadol eraill sydd yn helpu plant gyda gwaith yn ffyrdd hwylus. Credaf bod technoleg yn fwy bositif nag yw hi'n negyddol oherwydd bod technoleg yn rhoi' r meddalwedd a'r cyfeoedd i bobl creu cwis neu rhywbeth i brofi dealltwriaeth y disgyblion ar bwnc penodol sydd yn gallu helpu i gyflymu cyfradd y dysgu. Nid ydw i oreidrwydd yn credu bod ysgolion yn dibynnu gormod ar dechnoleg oherwydd nid oes gan pob ysgol ym mhobman mynediad i llawer iawn o dechnoleg, yn fy ysgol i roedd dim ond un cyfrifiadur ym mhob dosbarth, un ipad ym mhob dosbarth ac yn ogystal a hyn nid oedd modd defnyddio phonau symudol sydd yn dangos nid oes angen technoleg yn ysgolion i allu dysgu yn effeithiol ond wrth gwrs mae technoleg yn fuddiol i addysgu. Yn ol (Wakefield, 2015) mae technoleg yn dod yn fwy ac yn fwy pwysig ac yn y pendraw mae'n mynd i gymryd lle llyfrau traddodiadol ym myd addysg. "We are at the ground floor of a new world full of imagination, creativity, innovation and digital wisdom. We are going to have to create the education of the future because it doesn't exist anywhere today."

      Cyfeirio
      Wakefield, J. (2015) Technology in schools: Future changes in classrooms Available at: http://www.bbc.co.uk/news/technology-30814302
      [Accessed: 24 April 2018]

      Delete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig o fewn addysg cynradd?

Beth ellir ei wneud er mwyn gwella agweddau tuag at fathemateg yn yr ystafell dosbarth yng Nghymru?

Myfyriwch a thrafodwch ystyr a pharamedrau e-ddiogelwch