Beth ellir ei wneud er mwyn gwella agweddau tuag at fathemateg yn yr ystafell dosbarth yng Nghymru?

"Mathematics is the abstract science of number, quantity, and space, either as abstract concepts (pure mathematics), or as applied to other disciplines such as physics and engineering (applied mathematics)."

Mathemateg mewn ysgol gynradd

Rydym yn defnyddio maths ym mhob agwedd o’n bywyd, a bron pob dydd. Mae rhifedd da yn hanfodol i rhieni wrth helpu plant dysgu, fel cleifion yn deall gwybodaeth iechyd, fel dinasyddion yn gwnued synnwyr o’r ystadegau a newyddion economaidd. Mae penderfyniadau menw bywyd mor aml yn seiliedig ar wybodaeth rifiadol, gwneud y dewisiadau gorau, mae angen inni fod yn rhifog.

Mae Sir Michael Wilshaw o Llywodareath Prydain yn ymladd dylai plant derbyn addysg gorau phosib. “I want all children to have the best education they can and mathematics is a fundamnetal part of that. It is essential in everyday life and understanding of our world.” (UK Governement, 2012)

Bydd Ofsted yn cynhyrchu deunyddiau cymorth i helpu ysgolion i nodi a chywiro gwendidau o fewn mathemateg. Bydd yn codi uchelgais ar gyfer addysg mathemateg pob disgybl drwy roi mwy o bwyslais yn arolygu ysgol ar:

  •         Pa mor effeithiol y mae ysgolion yn mynd i’r afael ag anghysondeb yn answadd yr addysgu mathemateg
  •         Pa mr dda y mae’r addysgu yn meithrin dealltwriaeth
  •         Medrau disgyblion yn datrys problemau
  •         Defnydd helaeth heriol o mynediad cynnar a mynych i arholiadau TGAU


Sut all mathemateg cael ei addysgu

Misoedd yn ôl cyhoeddodd Michael Gove cynigion ar gyfer cwricwlwm cynradd yn ysgwyd, ac nid yw’n syndod y canmolwyd mathemateg ar gyfer thai o’r newidiadau mwyaf uchelgeisiol.  Wnaeth y cynigion newydd alw ar gyfer tasgau allweddol cliriach, mwy penodol, targedau llymach ar gyfer dysgu tablau, rhifyddeg meddwl a ffracsiynau; gan gynnwys dychwelyd at dull sy’n cael ei disgrifio fel ‘gof’.

Os rydym i wella ein perfformiad menw mathematwg a sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau mathemateg sydd eu ahngen i lwyddo mewn marchnad fyd-eang, mae’n rhaid dechrau o hanfodion ar lefel gynradd. (McAleavy, 2012)

Mae BBC Bitesize yn wefan sydd yn addysgu plant o 3 mlwydd oed hyd at disgyblion 16 mlwydd oed i helpu gyda’i TGAU. Mae nifer o bynciau gwahanol ar y wefan nid dim on mathemateg.

Mae’r wefan yn defnyddiol iawn gan fod o’n cynnwys clipiau fideo felly mae athrawon yn gallu esbonio’r tasgau/pwnc newydd i’r disgyblion, mae’r wefan hefyd yn cynnwys gemau gwahanol. 

Agweddau tuag at mathemateg

Mae agwedd athro neu athrawes tuag at bwnc yn gallu effiethio barn y disgyblion. Mae gwaith ysgolion mewn mathemateg wedi dangos fawr o wellaint dros y tair blynedd diwethaf. Mae athrawon yn canolbwyntio a sicrhau bod plant yn gallu ateb cwestiynnau arholiad/prawf. “While the best teaching developed pupils’ conceptual understanding alongside their fluent recall of knowledge, and confidence in problem solving, too much teaching concentrated on the acquisition of disparate skills that enabled pupils to pass tests and examinations but did not equip them for the next stage of education, work and life.” (Ofsted,2012) Trwy ganolbwyntio ar ateb cwestiynnau arholiad/prawf gall hyn datblygu agwedd negyddol tuag at y bwnc gan nad ydy o’n helpu o fewn bywyd go iawn.

Mae nifer o disgyblion yn cael profiadau gwael wrth cwblhau tasgau fathemateg. Yn aml nid yw disgyblion yn hyderus yn eu dealltwriaeth o’r tasgau, a nad ydyn nhw’n gweld perthynas mathemateg ym mywyd pob dydd. Yn y DU mae agwedd tuag at fathemateg yn ddiystyriol, sydd wedi cyfrannu at llawer o bobl ifanc ac oedolion yn derbyn ei bod yn iawn i fod yn wael mewn mathemateg.

Mae nifer o pobl yn credu bod agwedd tuag at fathemateg yn gysylltiedig â rhyw. Mae yna llawer o pobl sydd a farn bod bechgyn yn gwneud yn well yn fathemateg na merched. Darganfyddodd Farooq a Shah (2008) nad oedd unrhyw wahaniaeth sylweddol yn hyder myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd tuag at fathemateg ar lefel ysgol uwchradd. Darganfydddodd bod llwyddiant myfyrwyr mewn amthemateg yn dibynnu ar agwedd tuag at y pwnc.


Rhestr Cyfeirio
UK Government (2012) Every pupil needs a good mathematics education. Available at: https://www.gov.uk/government/news/every-pupil-needs-a-good-mathematics-education [Accessed: 21 April 2018]
McAleavy.T (2012) Exploring different approaches to teaching primary maths Available at: https://www.theguardian.com/teacher-network/2012/jul/20/primary-maths-programme [Accessed: 21 April 2018]
Ofstead (Office for Standards in Education) (2012) ‘Mathematics: Made to Measure’. London: Ofstead.
Mensah.J et al (2013) Student attitude towards Mathematics and performance: Does the teacher attitude matter? Available at: http://pakacademicsearch.com/pdf-files/edu/413/132-139%20Vol%204,%20No%203%20(2013).pdf
[Accessed: 21 April 2018]

Comments

  1. Rydw i'n cytuno bod yna agweddau gwahanol tuag at y pwnc mathemateg ac yn cytuno bod profiadau a'r dosbarthiadau yn chwarae rhan yn hwn. Fel athrawes, sut fyddet ti'n ceisio newid agweddau plant yn y dosbarth i sicrhau bod disgyblion yn cael profiad positif?

    ReplyDelete
    Replies
    1. Yn fy marn i maths yw pwnc lle mae'r ddisgyblion sydd yn gweld hi'n hawdd yn mwynhau'r pwnc a'r rhai sydd yn ei weld hi'n fwy annodd yn casau'r pwnc. Er mwyn newid agweddau plant yn y dosbarth i sicrhau eu bod nhw'n cael profiad positif byddaf yn rhannu'r disgyblion i grwpiau fel y bod nhw'n gweithio gyda plant o'r un gallu ac yn teimlo'n cyfforddus i gymryd rhan yn gweithgareddau gyda'r cyd-ddisgbylion sbesifig. Byddaf wedyn yn dosbarthu tasgau/sialensau/gemau i'r grwpiau wahanol er mwyn iddyn nhw cwblhau yn eu grwpiau er mwyn cael cystadleuaeth cyfeillgar gyda cyd-ddisgyblion o'r un gallu er mwyn sicrhau bod nhw'n dysgu o fewn y gwersi mathemateg on yn ogystal a hyn cael hwyl wrth wneud hi gyda'r gobaith bod hynny'n cael effaith positif ar agwedd disgyblion at y pwnc.

      Delete
    2. Yn ol Growth Engineering (2013) "Fun has a positive effect on motivation levels, determining what we learn and how much we retain. Learning isn’t a one-off event. It requires repetition and dedication. If the experience is fun, learners will stay curious and keep coming back for more." Mae hyn felly yn cefnogi bod awyrgylch dysgu positif yn helpu newid agwedd plant tuag at pynciau sbesifig, yn enwedig mathemateg.

      Cyfeirio
      Growth Engineering (2013) WHY FUN IN LEARNING WORKS BETTER THAN DULL LEARNING Available at: http://www.growthengineering.co.uk/why-fun-in-learning-is-important/
      [Accessed: 24 April 2018]

      Delete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig o fewn addysg cynradd?

Myfyriwch a thrafodwch ystyr a pharamedrau e-ddiogelwch